Hafan

Ym mis Chwefror 2005, darparodd ACCAC (yr Adran Addysg, Dysgu Gydol Oes a Sgiliau erbyn hyn) adroddiad i Lywodraeth Cynulliad Cymru am y gorgyffwrdd a geir rhwng cymwysterau cyfredol Llythrennedd Oedolion/Rhifedd Oedolion a Sgiliau Allweddol a pha mor addas at ei bwrpas oedd trefn asesu’r Llythrennedd Oedolion/Rhifedd Oedolion. Roedd y cyngor yn cynnwys yr argymhelliad y dylid uno’r cymwysterau Sgiliau Sylfaenol ac Allweddol mewn un gyfres o gymwysterau. Dywedwyd wrth y Gweinidog dros Addysg, Dysgu Gydol Oes a Sgiliau bod y gwaith yn mynd rhagddo i roi’r argymhelliad hwn ar waith. Yn unol â hynny, mae fersiwn drafft o’r safonau a gyfunwyd wedi’u cynhyrchu ac maent ar gael drwy’r wefan hon er mwyn i chi ddarparu adborth arnynt. Ar ôl derbyn adborth, gwneir unrhyw ddiwygiadau priodol i’r safonau drafft er mwyn llunio fersiwn terfynol y gyfres o safonau sgiliau wedi’u cyfuno. Hyd yma nid oes gennym deitl ar gyfer y safonau hyn a gyfunwyd.

Mae’r safonau drafft ar gael ar gyfer eu llwytho oddi ar y wefan hon. Byddem yn croesawu adborth gan bob parti sydd â diddordeb drwy’r holiadur ar y wefan hon.

Agor yr Ymgynghoriad: 2 Ionawr 2007

Cau’r Ymgynghoriad: 16 Chwefror 2007

 

Os hoffech ragor o wybodaeth am yr ymchwil hon, anfonwch eich ymholiadau at matt@special.co.uk.

 
©2007 Dyluniwyd a rheolir y wefan gan Special Website Development Ltd